Eisteddfod Ddwl

 

Ar Mawrth 1af eleni fe drefnodd Menter Caerffili a Choleg Gwent Eisteddfod ddwl hwylus dros Zoom i ddysgwyr. Braf iawn oedd gweld
cymaint wedi cystadlu. Dyma flas ar waith ysgrifenedig y buddugol.

Gyda diolch arbennig i’n beirniaid; Ann Lewis, Gwyneth Davies a Geraint Wilson-Price.

 

Dyma waith y buddugol:

 

Y GADAIR

(Mynediad – canolradd)

Dweudwch rhwybeth am eich daith am iaith
Mae’n hwyl, mae’n iawn ond dim walk ar y traeth
Dw i ddim yn cwynfan
Fy ngeirfa yn hedfan
Ond pam bod cymaint o eiriau am llaeth?!

gan Olivia Hayward  

 

(Uwch – hyfedredd)

Roedd fy nhadau’n dathlu yr hen iaith,
Mewn straeon, caneon, barddoniaeth.
Dysgais y manylion
Am ‘sgwennu englynion,
Ond i fi, fel caneri, ‘sdim gobaith!

gan Sheelagh Fishlock        

 

 

 

Y GORON

(Mynediad – canolradd)

Credwch chi fyth faint o newid sy’n rhedeg trwy fy ngwythiennau dyfrllyd.

Yn gyntaf, newidiodd fy ffurf, ac mae’n parhau i newid. Gwy dw i, ysbryd Afon Gwy. Dw i’n ferch i gawr oedd yn byw ar Plynlimon. Ro’n i’n byw ar y mynydd hwnnw gyda fy nwy chwaer, Ystwyth a Hafren, tra cysgodd ein tad. Un diwrnod gofynnodd i ni: “Sut byddwch chi’n cyflawni eich tynged?”. Penderfynais i ymweld â’r cefnfor, trwy deithio trwy gefn gwlad hardd. Felly deuthum yn Afon Gwy. Nawr dw i’n dechrau fel diferyn bach yn y mynyddoedd, a thyfu’n afon fawr ger Cas-gwent. Dw i’n cwrdd â fy chwaer Hafren yn Aber Hafren.

Yn ail, bob blwyddyn, mae fy lliwiau a golygfeydd hyfryd yn newid gyda’r tymhorau. Dw i’n hefyd yn gartref, lle anifeiliaid yn gallu newid trwy’r flwyddyn. Mae llawer o anifeiliaid yn mudo ac yn bridio ynof fi. Mae’r eog yn hoffi byw a silio ynof fi.

Yn drydydd, mae fy swydd wedi newid. Llawer o flynyddoedd yn ôl, ro’n i’n cario nwyddau i masnach. Ro’n i’n cario hopys, glo, mwyn haearn, seidr a phethau eraill. Ro’n i’n hefyd cario llawer o dwristiaid. Mwynhaodd y twristiaid weld adeiladau syfrdanol, natur hardd a ffatrïoedd. Nawr mae fy ngwaith yn wahanol. Dw i’n cario canŵod, caiacau a chychod rhwyfo, felly mae’r pobl yn gallu gael hwyl. Mae pobl hefyd yn hoffi cerdded ar hyd fy glannau yn eu hamser hamdden.

Mae afonydd bob amser yn newid, ac mae afonydd bob amser yn aros yr un peth. Ond mae rhai o fy newidiadau yn teimlo’n drist. Dw i wedi mynd yn llygredig, ac weithiau wedi gorlifo’r tai ar fy glannau. Dyw e ddim yn fy mai. Gobeithio bydd y bodau dynol yn newid rhai pethau amdanyn eu hunain, fel dw i’n gallu cyflawni fy nhynged.

gan Louise O’Byrne

 

(Uwch – Hyfedredd)

Chredwch chi byth, ond mae hon yn stori hollol wir!

“PJ & JP”.  Dyna’r arysgrifen ar garreg derfyn oedd yn sefyll ar y bryn uwchben Afon Ebwy a’r Stoney Bridge enwog.  Partridge Jones & John Paton.  Nhw oedd perchnogion Gweithfeydd Dur Pontymister. Arferai’r garreg derfyn ddynodi terfyn y tir oedd yn perthyn i’r gweithfeydd.  Mae llun du a gwyn a dynnais ohoni yn dal gartref mewn lle diogel.  Mae’r garreg a’r gweithfeydd wedi diflannu erbyn hyn.

Yn 1951 ffrwydrodd Ffwrnais H, un o ffwrneisi Gweithfeydd Dur Pontymister.  Yn drist iawn, lladdwyd un o’r gweithwyr.  Trwy ryw wyrth, ef oedd yr unig un a gollodd ei fywyd.  Achoswyd difrod anferth i’r ffwrnais ac i’r adeilad.  Darganfuwyd brics crasboeth ar y llechweddau cyfagos ar ochr arall yr afon.

Roedd gyrrwr y peiriant siarsio newydd dywallt bwced fawr o fetel sgrap i mewn i’r ffwrnais, ond  yn ddiarwybod i bawb, roedd bom neu belen fyw nerthol yn guddiedig ymhlith y sgrap.  Gyrrwr y peiriant siarsio yn Ffwrnais H yn ystod y sifft dyngedfennnol honno oedd fy nhad.  Yn 31 oed, Dad wnaeth ollwng y bom neu’r belen fyw i mewn i’r ffwrnais.

Roedd y gweithwyr yn Ffwrnais H wedi  bod wrthi’n gweithio’n galed ers dau o’r gloch.  Ffrwydrodd y ffwrnais dipyn ar ol hanner wedi naw gyda’r hwyr.  Llai na hanner awr cyn diwedd sifft y prynhawn.  Dim ond hanner awr cyn y hwter.  Dim ond hanner awr cyn y basai Dad wedi cael mynd adref i’w deulu.

Ty teras bychan yn Trafalgar Street, rhif pump, llai na chan llath oddi wrth brif fynedfa’r gweithfeydd, roedd cartref Nain, Taid, Mam, Dad, fy chwaer hyn a fi. A finnau ar y pryd yn ddim ond 13 mis oed.  Anodd iawn i beidio rhyfeddu at pa mor agos deuthum at byth yn gwybod na chofio y Dad gorau yn y byd!

Canys drwy ryw wyrth anferthol, bu iddo oroesi sioc a llosgiadau’r ffrwydrad.  Aeth ymlaen i ddathlu ei briodas aur, nyrsio Mam trwy ei Alzheimers ….. a chyrraedd ei wythdegau. Dad gorau a ffrind gorau.

gan Lyndon Sutton