Mae Menter Caerffili mewn partneriaeth gyda Llenyddiaeth Cymru yn rhedeg Sgwad Sgwennu yn Sir Caerffili. Nod y Sgwadiau yw dod o hyd i ysgrifenwyr disglair Gymraeg y rhanbarth a’u cyflwyno i rai o brif awduron a thiwtoriaid ysgrifennu creadigol Cymru. Mae aelodau’r Sgwadiau yn dod o ysgolion cynradd Gymraeg yr ardal, rhwng 8-11 oed ac wedi’i enwebu gan ei ysgol am ddangos addewid yn eu gwaith creadigol. Wedi dewis y Sgwad, bydd y plant yn cwrdd tair gwaith y flwyddyn, fel rheol ar ddydd Sadwrn, ac yn derbyn sesiynau hyfforddi gan lenorion sydd â’r sgiliau cyfathrebu angenrheidiol i weithio gyda’r ifainc. Gobeithir wedyn cadw’r Sgwad hwnnw gyda’i gilydd hyd ddiwedd eu dyddiau ysgol.
Am fwy o wybodaeth am y Sgwadiau Sgwennu yn Sir Caerffili, cysylltwch â Bethan Jones – bethanjones@mentercaerffili.cymru / 01443 820913

Y SGWAD NESAF:
Dyddiad: 15/6/19
Lleoliad: Caolfan Y Glowyr Coedduon
Amser: 10:00am – 12:00yp
Tiwtor: Sion Owens
Thema: Chwedlau