Prosiect Ieuenctid Sir Caerffili
Yn ystod y ddeuddeg blynedd diwethaf mae Menter Sir Caerffili, Urdd Gobaith Cymru a Chyngor B.S. Caerffili wedi cyd-ariannu a chyd-reoli Prosiect Ieuenctid cyfrwng Cymraeg ar gyfer pobl ifanc y Sir. Cyflogir Swyddog Ieuenctid llawn amser, sydd wedi ei leoli yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni. Mae’r Swyddog yn gyfrifol am ddatblygu cyfleoedd a gweithgareddau cyfrwng Cymraeg ar gyfer pobl ifanc ar draws y sir tu allan i oriau ysgol ac yn ystod y gwyliau ysgol. Mae’r gweithgareddau hyn yn cynnwys teithiau, clybiau chwaraeon a diddordeb yn ogystal â’r clybiau wythnosol canlynol:
Manylion cysylltu y Swyddog Ieuectid: maredjones@urdd.org
CLYBIAU IEUENCTID CYMRAEG SIR CAERFFILI
Clwb Ieuenctid YMCA Bargod – Blwyddyn 7+
Pob nos Fawrth 6:30pm-8:30pm (tymhorau ysgol yn unig)
YMCA Bargod
Aelwyd Cwmffili – Blwyddyn 7+
Pob nos Fercher 4:30pm-6:30pm (tymhorau ysgol yn unig)
Safle Y Gwyndy