Ffiliffest 2024

Gŵyl flynyddol yw Ffiliffest a gafodd ei sefydlu yn gan Menter Caerffili er mwyn Dathlu Cymreictod, diwylliant a threftadaeth yr ardal. Diwrnod o hwyl ar ail benwythnos mis Mehefin a gynhelir ar Gaeau Owain Glyndŵr yn nhref Caerffili yw Ffiliffest. Ceir cyfle i’r teulu gyfan mwynhau amrywiaeth o weithgareddau trwy gyfrwng y Gymraeg sy’n addas i bob oedran gan gynnwys cerddoriaeth fyw, gweithdai celf a chrefft a chwaraeon, stondinau gyda busnesau lleol yn gwerthu eu cynnyrch, cymeriadau S4C a phlant yr ardal yn dawnsio gwerin fel rhan o ddathliad Dawnsio drwy’r Cwm Trefnir yr ŵyl mewn partneriaeth â nifer o bartneriaid gan gynnwys Cyngor B.S.Caerffili, Cyngor Celfyddydau Cymru, Head4Arts, Mudiad Meithrin, Cymraeg i Blant, yr Urdd, Merched y Wawr, Papur Bro CwmNi a nifer o fudiadau cymunedol eraill.

I weld eitemau o’r yr wyl eleni ewch at ein tudalen Youtube.