Datganiad Cenhadaeth

Hyrwyddo ac ehangu’r defnydd o’r Gymraeg ar lefel gymunedol ym Mwrdeistref Sirol Caerffili, gan sicrhau bod yr iaith yn dod yn rhan ganolog o fywyd  y sir a bod cymunedau yn rhannu’r cyfrifoldeb am ei dyfodol a’i ddatblygiad.

Cefndir

Sefydlwyd Menter Sir Caerffili ym mis Rhagfyr 1999, gyda’r nod o hyrwyddo ac ehangu’r defnydd o’r iaith Gymraeg ym Mwrdeistref Sirol Caerffili  drwy greu cyfleoedd a gwasanaethau  i drigolion y sir ddefnyddio’r iaith o fewn eu cymunedau lleol. Mae Menter Sir Caerffili  yn Elusen Gofrestredig (1105172) ac yn Gwmni Cyfyngedig drwy warrant (5096968).

Mae’r Fenter yn weithgar yn y meysydd isod:

  • Cynlluniau Gofal cyn ysgol, ar ôl ysgol, yn ystod y gwyliau a chynlluniau cofleidiol drwy’r Gymraeg
  • Gweithdai amrywiol i blant yn ystod gwyliau’r ysgol
  • Cyfleoedd wythnosol, penwythnosol ac yn ystod cyfnodau gwyliau ysgol i bobl ifanc drwy’r Gymraeg
  • Gweithgareddau cymdeithasol i Ddysgwyr gan gynnwys boreau coffi, Sadyrnau Siarad a chlybiau darllen
  • Cyfleoedd Cymdeithasol i Deuluoedd
  • Gweithdai dysgu anffurfiol wythnosol ac undydd i Oedolion
  • Ffiliffest – Gŵyl Haf Cymraeg
  • Ffair Nadolig blynyddol
  • Cydlynu Fforwm Iaith Sir Caerffili
  • Darparu gwasanaethau cyngor a gwybodaeth iechyd i blant a phobl ifanc trwy gyfrwng y Gymraeg
  • Cefnogi ac annog darparwyr gofal plant i ddefnyddio’r Gymraeg
  • Cyswllt Cymraeg ar sawl pwyllgor yn y sector gwirfoddol, preifat a chyhoeddus
  • Rydym yn darparu ein gwasanaethau drwy weithio mewn partneriaeth gyda nifer helaeth o fudiadau Cymraeg Sir Caerffili  yn ogystal â phartneriaid di-Gymraeg y Sir gan gynnwys Cyngor B.S. Caerffili, Urdd
  • Gobaith Cymru, Mudiad Meithrin, Canolfan Cymraeg i Oedolion Gwent, Merched y Wawr, CADW, ysgolion a cholegau, busnesau lleol ac eraill
  • Rhai o brif bartneriaid Menter Sir Caerffili yw Llywodraeth Cymru a Chyngor B.S. Caerffili sy’n  gyfrifol am ariannu rhai o’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig drwy’r Gymraeg yn y Sir.

Cyfarwyddwyr y Cwmni ac Ymddiriedolwyr yr Elusen

Jeff Grenfell – Cadeirydd
David Thomas
Gwyneth Davies
Anwen Cullinane – Aelod Cyfetholedig

Jobe Bruzas
Samantha Jarrett
Huw Rowlands
Llinos Neale

Lois Roberts

Geraint Ashton

Ysgrifennydd y Cwmni: Lowri Jones