Mae papur bro Caerffili wedi ail-lansio gyda gwedd a naws newydd. Mae ein papur bellach yn fwy, yn cynnwys mwy o dudalennau lliw ac yn cynnwys digonedd o erthyglau diddorol sy’n addas ar gyfer Cymry Cymraeg, dysgwyr, plant a phobl ifanc.

Dyma’r pwynt cyswllt ar gyfer siaradwyr Cymraeg ar draws y sir. Mae'r papur yn £1 y copi sef £10 y flwyddyn am 10 copi neu £15 i'r rhai sy'n dymuno derbyn drwy'r post. Cysylltwch â'r Golygydd Ben Jones os dymunwch ymuno â'r rhestr.