Erbyn hyn mae Menter Iaith Sir Caerffili yn darparu gofal cofleidiol yn ystod y diwrnod ysgol i blant sy’n mynychu dosbarth meithrin rhan amser o fewn 6 ysgol. Mae’r cynlluniau hyn yn cynnig gofal rhan amser i blant cyn neu ar ôl iddynt fynychu dosbarth meithrin rhan amser o fewn yr ysgol. Mae’r ddarpariaeth yn cynnig gofal o ansawdd uchel sy’n cefnogi’r addysg rhan amser mae’r plant yn derbyn wrth sicrhau fod y plant yn medru aros o fewn yr ysgol mewn awyrgylch symbylol a chefnogol am ddiwrnod cyfan.
Am fanylion pellach, cysylltwch â Rheolwr Busnes Gofal Plant y Fenter Tracy Reeves – tracyreeves@mentercaerffili.cymru / 01443 820913.
CYNLLUNIAU GOFAL
Ysgol Bro Allta (Clwb Bechgyn a Merched Ystrad Mynach)
CLYBIAU GWYLIAU
Rydym hefyd yn trefnu clybiau gwyliau yn ystod cyfnod gwyliau ysgol. Mae manylion y clybiau hyn isod:
(Gofal rhwng 8:30am-5:00pm)
Clwb Gwyliau Bro Allta – ar agor dros y pythefnos i bwcio cysylltwch — 07932 354546 neu 01443 815766
Clwb Gwyliau Y Castell – ar agor dros y pythefnos i bwcio cysylltwch — 07932 565365
Clwb Gwyliau Caerffili — yr ail wythnos yn unig i bwcio cysylltwch — 07866 045147